Sioned Hywel

Anrhegion personol ac unigryw wedi eu pwytho'n gain â llaw yn ôl y gofyn

Hafan

Anrhegion unigryw wedi eu personoli. Rhywbeth ar gyfer pawb – babi newydd, bedydd, plant ifanc, mam, dad, nain neu taid. Defnyddir croes-bwyth i addurno bocsys cofrodd, albwm lluniau, blancedi a llyfr lloffion. Mae’r stoc yn newid yn gyson ac os na welwch rywbeth addas yna gofynnwch. Dwi yn rhedeg y busnes o fy nghartref rhwng y môr a’r mynyddoedd yn Eryri. Gan fy mod i’n sylweddoli fod bywyd yn brysur, mae pob anrheg yn dod mewn bag anrheg yn barod i’w roi. Bydd bob parsel yn cael ei yrru gyda phost dosbarth cyntaf.

Ffôn: 01286 831 439 E-bost:

Gwybodaeth

Cefais yr ysfa i ddechrau’r busnes tra ar gyfnod mamolaeth o fy swydd fel athrawes. Fel mam i dri o blant bach, teimlais fod arna’ i angen gwneud rhywbeth oedd yn asio’n dda â bywyd teulu. Y dechreuad oedd gwneud anrhegion ‘personol’ yn cynnwys bocs cofrodd, llyfr lloffion, albwm lluniau a blanced babi – yn bennaf ar gyfer teulu a ffrindiau. Gan i’r rhain fod mor boblogaidd, penderfynais fynd ati i sefydlu fy musnes fy hun.

Gan fod pob eitem yn cael ei bwytho’n gain â llaw rwy’n gofyn am dair wythnos i gwblhau’r nwyddau.
Bydd cost pacio a phostio nwyddau yn amrywio o £3.50 – £6.50 yn ôl yr eitemau.

Mae rhai o’r nwyddau ar gael yn Oriel Parc Glynllifon, Oriel Môn, Cae’r Gors ac ar gael i’w prynu dros y we ar adrahome.com

Newyddion

Sul y Mamau 18-3-2012
Angen syniadau am anrhegion?
Beth am –
Albwm lluniau ‘Mam’ (Ar gael hefyd i Nain) £27
Llyfr Brolio Nain / Mamgu £17.50
Mae gen i hefyd gasgliad newydd o nwyddau bach sy’n amrywio rhwng £6.00 a £8.50.
Addurn calon £6.50
Addurn wal a cerdyn cyfarch ‘Sul y Mamau’ yn un. £7.00
Pwrs £6.00
Cas Pensiliau £7.00
Broets £8.50

Bocs cofrodd

Cliciwch ar y llun i weld rhagor o engreifftiau

Bocs Cofrodd

Mae amrywiaeth o focsys cofrodd ar gael i ddal manion pwysig, yn amrywio o ran steil a phris.
Gellir dewis o addurn croesbwyth pram neu law mewn glas neu binc ar gyfer genedigaeth neu fedydd. Addurn calon gydag enwau a dyddiad ar gyfer priodas neu ddyweddïad. Addurn penblwydd arbennig, 18, 21, 40 a.y.y.b

Bocs gwyn sy’n cau â rhuban. Addurn croesbwyth wedi ei wnïo â llaw.

25 × 33 × 6.5 cm. £30.00
  • 29 × 23 × 7.5 cm £26.50
  • 25 × 20 × 6 cm £20.00

Bocs gwyn sy’n cau â magned. Addurn croesbwyth wedi ei wnîo â llaw neu addurn pren gydag ysgrifen brodwaith.

  • 20 × 28 × 11 cm £24.00

Bocs Cofrodd ‘Nadolig Cyntaf’ neu ‘Atgofion Nadolig’ £24

NEWYDD – Bocs mawr o liw hufen wedi’i wneud o bapur hyfryd ‘Lokta’. Addurn croesbwyth wedi ei wnïo â llaw.

  • 24cm x 33cm x 11cm £35

Albwm lluniau

Cliciwch ar y llun i weld rhagor o engreifftiau

Albwm Lluniau

Mae’r albwm lluniau gwyn yn dod mewn dau faint. Gellir dewis o addurn croesbwyth pram neu law mewn glas neu binc ar gyfer genedigaeth neu fedydd. Addurn calon gydag enwau a dyddiad ar gyfer priodas neu ddyweddïad. Addurn penblwydd arbennig, 18, 21, 40 a.y.y.b

Albwm lluniau gwyn mewn bocs arddangos. Addurn croesbwyth wedi ei wnïo â llaw.

  • Bach – 28 tudalen 15 × 21 cm £28.00
  • Mawr – 30 tudalen 29 × 30 cm £;40.00

NEWYDD
Albwm lluniau lliw hufen yn cynnwys 24 o dudalennau. Mae’r albwm yn dod mewn bocs arddangos a’r ddau wedi’i ei wneud â llaw o bapur hyfryd ‘Lokta’.
Bach – 21cm x 15cm £28
Canolig – 24 × 24 cm £32

Llyfr gwesteion lliw hufen yn cynnwys 50 o dudalennau gyda llinellau. Mae’r llyfr yn dod mewn bocs arddangos a’r ddau wedi’i ei wneud â llaw o bapur hyfryd ‘Lokta’.
Maint – 22cm x 18 cm £28

Llyfr lloffion / Coflyfr

Cliciwch ar y llun i weld rhagor o engreifftiau

Llyfr Lloffion/Coflyfr

Llyfr Lloffion A5 gyda chlawr cerdyn caled, 25 tudalen

Ar gael:

  • Llyfr genedigaeth / bedydd gyda chynllun pram mewn glas neu binc.
  • Llyfr Brolio Nain / Mamgu mewn pinc, piws, coch neu las.
  • £17.00

Ar gyfer y Nadolig – Llyfr ‘Nadolig Cyntaf’ wedi’i bersonoli.
£17

Blancedi

Cliciwch ar y llun i weld rhagor o engreifftiau

Blanced Pram

Blanced pram o ddeunydd meddal ‘fleece’

Addurn croesbwyth ac enw’r babi wedi ei wnîo â llaw.

Ar gael yn y lliwiau canlynol:

  • Glas
  • Coch
  • Pinc
  • Piws
  • Oren
  • £24.00

Llyfrau Nodiadau

Cliciwch ar y llun i weld rhagor o engreifftiau

Llyfrau Nodiadau ac Addurniadau

NEWYDD
Broets Calon £8.50
Addurn calon £6.50
Addurn calon a cerdyn cyfarch ‘Sul y Mamau’ yn un. £7.00
Ar gael nawr yn y lliwiau yma –pinc gole, pinc tywyll, coch ( a glas ), coch (a gwyrdd) a piws. (Amrywiol gynlluniau)
Pwrs £6.00
Cas pensiliau £7.00

Addurn wal i gofnodi achlysur priodas neu genedigaeth £27.50
Mae’n cynnwys addurn croesbwyth, enwau’r cwpwl / babi a dyddiad. Mae’r darn yn dod wedi’i fframio (maint y ffram – 24 × 19 cm) a cheir dewis o ffrâm wen neu o liw pren golau.

Llyfr nodiadau wedi’u haddurno â llaw.

  • Bach – 10.5 × 10.2 cm £5.50
  • Canolig – 14.8 × 14.4 cm £6.50

Calon ffabrig gyda’r gair ‘Cariad’ arno. £4.50

Llyfrau Llwyddiant – llyfr lloffion A4 i gofnodi llwyddiant eich plentyn. Gludwch ynddo dystysgrifau, toriadau papur newydd, newyddion a lluniau. Ar gael mewn pinc neu glas.
Hefyd ar gael – llyfr lloffion A4 lliw coch gyda’r gair ‘Nodyn’ arno. £10.50

Nwyddau Atgofion Melys

Cliciwch ar y llun i weld rhagor o engreifftiau

Nwyddau ‘Atgofion Melys’

p.Bocs Cofrodd ‘Nadolig Cyntaf’ neu ‘Atgofion Nadolig’ £24
Albwm lluniau bach brown ‘Nadolig Cyntaf’ neu ‘Atgofion Nadolig’ £13.50
Albwm Nadolig wedi’i bersonoli. £13.50

Nwyddau yw’r rhain sydd wedi eu haddurno gydag addurn pren ac ‘Atgofion Melys’ mewn ysgrifen brodwaith.
  • Bocs gwyn sy’n cau â magned
  • 20 × 28 × 11 cm £24.00
  • Albwm lluniau bach brown
  • £13.50

Mae’r nwyddau yma hefyd ar gael gydag ysgrifen brodwaith:

  • Cymro Bach
  • Angel Fach
  • Atgofion Priodas
  • Atgofion Teulu
  • Bedydd
  • Atgofion Nadolig
  • Nadolig Cyntaf
facebook